Executive summary
- Date(s) of inspection: December 2024
Aim of inspection
The aim of the inspection is to consider NRS's Construction (Design and Management) Regulations (CDM) arrangements at Trawsfynydd and their implementation on the Safe Store Height Reduction and on other relevant construction projects. The inspection also encompasses fire safety in construction projects, as well as general health and safety management and will sample the Trawsfynydd arrangements for managing health and safety compliance.
Subject(s) of inspection
- CDM 15 (Client / PD / PC duties) - Rating: GREEN
- Construction Fire Safety - Rating: GREEN
- Health & Safety at Work Act - Rating: GREEN
Key findings, inspector's opinions and reasons for judgement made
The Safe Store Height Reduction project team (SSHR) gave presentations on the history and progress of the project and updated ONR on the project timetable with major works due to start in early 2026. The SSHR team and ONR discussed how NRS were discharging their CDM 2015 responsibilities in fulfilling the Principal Designer (PD) role. In order to ensure that they have the competency in demolition they have engaged RVA as consultant to provide the SQEP advice throughout the project and they and designers ARUP will remain available throughout the project lifecycle to assess particular subjects as they arise. The SSHR Team stated that they hadn’t yet applied NRS’s new procedure to assess the appropriate PD competence for the project.
The Ponds Complex De-planting project has NRS fulfilling both the PD and Principal Contractor (PC) roles for this project and we discussed how NRS were discharging their PC duties in line with CDM 2015. They are taking a space-by-space/room-by-room approach using small teams to complete the de-planting work - the working environments require a large amount of radiological C3 working, recovering radiological wastes, packaging and sentencing. NRS stated that the project will now progress until 2031 because of a change in resource allocation. ONR raised NRS’s duties as PC to ensure that the interfaces between the Ponds Complex Fire Risk Assessment and each ‘section’ of the de-planting project to ensure that fire safety risk controls align. NRS also provided a brief explanation of the work to install 10 new boreholes.
There was then a walkdown of the Safe Store to provide context for the SSHR project, particularly from a fire safety perspective. We then observed the boreholes project where we discussed the risks of pedestrian and vehicle segregation. We then conducted a walkdown of the Ponds Complex De-Planting project and I discussed the risks involved and the methods used with the de-planting team supervisor. We also discussed fire safety and confined spaces risks.
Conclusion
From the Safe Store Height Reduction (SSHR) and the Ponds Complex De-plant project teams’ demonstration of how CDM is complied with on both projects and the work that we sampled on the walk-downs of the construction sites, we judged that the management of CDM on these construction projects (including management of fire safety as prescribed in CDM 2015) as adequate and rated the inspection as green.
Crynodeb gweithredol
Diben yr Arolygiad
Nod yr arolygiad hwn yw ceisio sicrhad bod trefniadau NRS Trawsfynydd ar gyfer cydymffurfiad ag Amod Trwydded 12 (Pobl wedi'u Hawdurdodi'n Briodol a Phobl Eraill sydd â Phrofiad a Chymwysterau Addas) ac Amod Trwydded 23 (Rheolau Gweithredu) yn ddigonol, a'u bod wedi'u gweithredu'n ddigonol.
Pwrpas yr Arolygiad
Y gweithgareddau a ganlyn oedd pwnc yr arolygiad hwn
- CDM 15 (Dyletswyddau Prif Gontractiwr/ Prif Ddylunydd / Cleient) - GWYRDD
- Diogelwch Tân mewn Adeiladu - GWYRDD
- Y Ddeddf Iechyd a Diolgewch yn y Gwaith - GWYRDD
Canfyddiadau Allweddol
Rhoddwyd cyflwyniadau gan dîm y prosiect Gostwng Uchder Storio Diogel (SSHR) ar hanes a chynnydd y prosiect a rhoesant y manylion diweddaraf i'r ONR am amserlen y prosiect, gyda gwaith mawr yn cychwyn ym misoedd cynnar 2026. Bu'r tîm SSHR a'r ONR yn trafod sut yr oedd NRS yn cyflawni eu cyfrifoldebau CDM 2015 wrth weithredu rôl y Prif Ddylunydd. I wneud yn siŵr eu bod yn gymwys mewn gwaith dymchwel, maen nhw wedi sicrhau gwasanaeth RVA fel ymgynghorydd i ddarparu cyngor SQEP trwy gydol y prosiect a byddan nhw a'r dylunwyr ARUP yn parhau i fod ar gael drwy gydol oes y prosiect i asesu pynciau penodol wrth iddynt godi. Dywedodd y Tîm SSHR nad oeddent wedi rhoi gweithdrefn newydd NRS ar waith eto i asesu cymhwysedd y Prif Ddylunydd priodol ar gyfer y prosiect.
Ym mhrosiect Tynnu Gwaith Cyfadeilad Ponds, mae NRS yn cyflawni rolau'r Prif Ddylunydd a Phrif Gontractiwr ar gyfer y prosiect hwn ac aethom ati i drafod sut yr oedd NRS yn gweithredu eu dyletswyddau Prif Gontractiwr yn unol â CDM 2015. Maen nhw'n defnyddio dull 'pob yn ofod' neu 'bob yn ystafell' i gwblhau'r dasg o dynnu gwaith - mae'r amgylcheddau gweithio'n gofyn gwneud llawer iawn o waith C3 radiolegol, adfer gwastraff radiolegol, pecynnu a dedfrydru. Dywedodd NRS y bydd y prosiect yn mynd yn ei flaen tan 2031 yn awr oherwydd newid mewn dyrannu adnoddau. Cyfeiriodd yr ONR at ddyletswyddau NRS fel Prif Gontractiwr i edrych ar y rhyngwynebau rhwng Asesiad Risg Tân Cyfadeilad Ponds a phob 'adran' o'r prosiect tynnu gwaith er mwyn sicrhau bod y rheolaethau risg diogelwch tân yn alinio. Hefyd, rhoddodd NRS esboniad byr am y gwaith o osod 10 twll turio newydd.
Yna cerddwyd o amgylch y Storfa Ddiogel i roi cyd-destun y prosiect SSHR, yn arbennig o safbwynt diogelwch tân. Yn dilyn hynny, edrychwyd ar y prosiet tyllau turio lle buom yn trafod y risgiau o wahanu cerddwyr a cherbydau. Yna aethom i gerdded o amgylch prosiect Tynnu Gwaith Cyfadeilad Ponds ac mi fum innau'n trafod y risgiau perthnasol a'r dulliau a ddefnyddir gyda goruchwyliwr y tîm tynnu gwaith. Buom hefyd yn trafod diogelwch tân a risgiau gofodau cyfyng.
Y Beirniadaethau a Gafwyd
O weld dangosiadau timau prosiect Gostwng Uchder Storio Diogel (SSHR) a Thynnu Gwaith Cyfadeilad Ponds am y ffordd y maent yn cyflawni CDM ar y ddau brosiect, a'r gwaith a samplwyd gennym wrth gerdded o amgylch y safleoedd adeiladu, barnwyd gennym fod y rheolaeth CDM ar y prosiectau adeiladu hyn (yn cynnwys y rheolaeth diogelwch tân fel y mae wedi ei ragnodi yn CDM 2015) yn ddigonol, a rhoddwyd sgôr gwyrdd i'r arolygiad.